Tîm Adolygu Cynhyrchu’r tu allan i Lundain
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
Llundain SE1 9HA

 

25 Chwefror 2019

Annwyl Dîm

 

Adolygiad o’r Canllawiau ar gyfer Cynyrchiadau a Rhaglenni Teledu Rhanbarthol

Ysgrifennaf mewn ymateb i'ch ymgynghoriad ynghylch canllawiau ar gyfer cynyrchiadau a rhaglenni teledu rhanbarthol.

Fel rhan o’ch newidiadau arfaethedig i gynyrchiadau rhanbarthol, sylwaf eich bod yn ystyried cais Equity i gynnwys talent ar y sgrin yn y gofyniad gan sicrhau bod 'o leiaf 70% o'r gyllideb cynhyrchu ... yn cael ei wario yn y DU y tu allan i'r M25 '.

Fel y nodwyd yn y ddogfen ymgynghori, mae'r Canllawiau a gyhoeddwyd yn 2004 yn cynnwys y rhesymeg dros beidio â chynnwys talent ar y sgrin yn y ffigurau:

‘sef sicrhau bod y cwotâu’n dal yn canolbwyntio ar arbenigedd cynhyrchu yn y rhanbarthau yn hytrach nag ar dalentau ar y sgrin sy’n gallu symud o un lle i’r llall ac, yn bwysicach fyth, sicrhau nad yw’r cwotâu’n cael eu sgiwio gan gost sylweddol talentau ar y sgrin’.

Rydych hefyd yn nodi bod Equity, mewn ymateb i'ch ymgynghoriad diweddaraf, yn dadlau:

‘nad oedd y meini prawf presennol yn rhoi digon o gefnogaeth i dalentau ar y sgrin yn y gwledydd a'r rhanbarthau sy'n chwilio am waith. Awgrymwyd dileu'r eithriad ar gyfer talentau ar y sgrin o’r maen prawf ar gyfer y gyllideb cynhyrchu er mwyn mynd i’r afael â hyn. Cynigiodd Ecwiti hefyd y gallem ddiwygio'r meini prawf i osod dyletswydd ar ddarlledwyr a chynhyrchwyr i gynnal o leiaf un sesiwn gastio leol, i ddangos parodrwydd i edrych ar y talentau lleol ar y sgrin yn ardal y cynhyrchiad.'

 

Hoffai’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ategu dadleuon Ecwiti dros sicrhau mwy o gynrychiolaeth ranbarthol ar y sgrin a’i gwneud yn ofynnol i gynhyrchwyr gynnal o leiaf un sesiwn gastio leol.

Yn ystod ein hymchwiliad i gynyrchiadau ffilm a theledu mawr yng Nghymru, dywedodd rhanddeiliaid wrthym y dylai cynhyrchwyr sy’n ffilmio yng Nghymru ymdrechu mwy i gastio actorion o’r ardal leol. Er bod tuedd i’r dystiolaeth hon ganolbwyntio ar yr amodau sydd ynghlwm wrth nawdd Llywodraeth Cymru, teimlwn fod hyn hefyd yn berthnasol yn achos darlledu gwasanaeth cyhoeddus, gan y bwriedir i hwn hefyd arwain at ganlyniadau sydd o fudd cymdeithasol.

Mae’r Pwyllgor yn cytuno y byddai gorfodi darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus i gynnal sesiynau castio lleol yn creu mwy o gyfleoedd i dalent greadigol ffynnu yng Nghymru, ac yn gwella gwerth cyhoeddus darlledu gwasanaeth cyhoeddus.

 

Yn gywir, 

Bethan Sayed

Cadeirydd y Pwyllgor